top of page
5540 new_.jpg

Mae 5540 yn brosiect dan arweiniad artist sy’n edrych ar yr effeithiau dinistriol mae llygredd carthion yn cael ar yr afon Arth. Bydd y prosiect yn uno cymuned sydd ag angerdd i ddiogelu dyfodol eu hafon a’u hymreolaeth. Bydd 5540 yn archwilio’r rôl y gall celf ei chwarae wrth amlygu’r heriau gwleidyddol, diwylliannol ac economaidd sy’n wynebu cymunedau gwledig fel Aber-arth. Gan weithredu fel catalydd ar gyfer cydweithredu a chyfranogiad, mae 5540 yn estyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn ymdrech ar y cyd i achub afon Arth trwy Gelf ac addysg.

Dosbarthu Celf

Wedi'i curadu gan Natalie Chapman a Harriet Chapman
8c7e87f16c6b1df087dc3f184b1496c7.jpg

DEWCH  I  GREU  LLYFR  CONSERTINO  O DDEUNYDDIAU NATURIOL

Mae'r dosbarthiadau wedi'u cynllunio i ddyfnhau eich cysylltiad gyda’r afon Arth, y dirwedd  a chi'ch hun. Mae’r sesiynau’n dechrau gyda thaith  a sgwrs, lle byddwch yn arsylwi ac yn dogfennu rhythm ac egni’r afon wrth ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr. Byddwch yn casglu deunyddiau, straeon gwerin ac offrymau i ddatblygu eich gwaith yn ôl yn y stiwdio. Ochr yn ochr â’ch llyfr consertina, byddwch hefyd yn rhan o ddarn cydweithredol sy’n dathlu ein perthynas hynafiadol a’r dyfodol gyda’r  afon Arth.

SAFFARI AFON 

Screenshot 2022-02-08 at 15.29.53.png
IMG_2424.JPG

Mae 5540 yn cyfeirio at gyfanswm yr oriau y cafodd carthffosiaeth ei llwytho i'r afon Arth yn 2020. Gwelodd yr ymgyrch dros ddeddfwriaeth ansawdd dŵr llymach yn Neddf yr Amgylchedd y niferoedd uchaf erioed o  ymgyrchwyr amgylcheddol yn mynd i draethau a  afonydd yn yr alwad i roi terfyn ar lygredd carthion. Gwrthryfel y mae pobl Aberarth, gan gynnwys fi fy hun, yn rhan ohono. Bydd 5540 yn gosod esiampl i gymunedau gwledig ac anghysbell eraill y gall celf a chreadigrwydd arwain y ffordd at ddyfodol gwell

Bwciwch Eich Lle Yn Y Dosbarthu Celf

Mae’r sesiynau am ddim ac wedi’u hariannul gan Gyngor Celfyddydau Cymru.Fe fyddan nhw'n cymryd lle yn neuadd bentref Aberarth ar Foreau Sul. Rydym yn annog cyfranogwyr i fynychu pob un o'r pedair sesiwn i gael y gorau o'r prosiect. Byddwn yn darparu'r holl ddeunyddiau ychwanegol a lluniaeth ysgafn ar gyfer pob sesiwn.

Sesiwn 1. 06.03.22 : 11.00 - 15.00

Sesiwn 2. 13.03.22 : 11.00 - 13.00

Sesiwn 3.  27.03.22: 11.00 - 13.00

Sesiwn 4.  03.04.22 :11.00 - 15.00 

26.03.22 11.00 Neuadd Aberarth 

0.jpeg
IMG_0940.jpeg

Mae Bioamrywiaeth yr afon Arth dan fygythiad oherwydd llygredd a newid hinsawdd. Er mwyn deall sut y gallwn ni helpu mae'n rhaid i ni yn gyntaf ddysgu nodi beth sy'n niweidio ein hafon. Os ydych chi am ddod yn ddinesydd wyddonydd a helpu i lunio dyfodol yr afon Arth ebostiwch info@rebeccawynkelly.com i bwicio lle. 

bottom of page